Cartref > Newyddion > Peiriannau Sychu Dillad
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ailadrodd apêl i drigolion sicrhau eu bod yn defnyddio peiriannau sychu dillad yn ddiogel a bod ganddynt larymau mwg sy'n gweithio ar ôl galwad am ddau dân yn ymwneud â pheiriannau sychu dillad mewn cyfnod o 24 awr.
Cofiwch!
Peidiwch â gorlwytho’r plygiau - cadwch lygad am unrhyw olion llosgi neu losgiadau, gan gynnwys gwirio unrhyw wifrau trydanol gweladwy
Peidiwch â gadael offer heb oruchwyliaeth –peidiwch â throi’r peiriant sychu dillad ymlaen cyn i chi adael y tŷ neu fynd i’r gwely.
Cadwch eich sychwr wedi'i awyru'n dda, gwnewch yn siŵr nad ydy’r bibell awyru wedi'i rhwystro na'i falu mewn unrhyw ffordd
Glanhewch yr hidlydd bob amser ar ôl defnyddio'ch peiriant sychu dillad
Caniatewch bob rhaglen sychu bob amser i'w chwblhau'n llawn cyn gwagio'r peiriant
Peidiwch ag anwybyddu'r arwyddion rhybudd -os gallwch chi arogli llosgi neu os bydd dillad yn teimlo'n boethach ar ddiwedd y cylch, peidiwch â defnyddio'ch teclyn a gofynnwch i weithiwr proffesiynol ei wirio.