Cartref > Effeithiolrwydd Ynni
Mae disgwyliadau'r llywodraeth ynglyna gwella effeithiolrwydd ynni yn parhau. Byddwn ni fel cwmni yn trafod gyda chwmniau ac asianaethau i adnabod cyfleo. gynnig gwelliannau, lle bo hynny'n bosib. Byddwn yn cysylltu gyda chi yn uniongyrchol os bydd cyfle am unrhyw gymorthdal tuag at gyflwyno mesurau fydd yn gwella perfformiad ynni eich eiddo.
Gofynion Effeithlonrwydd Ynni yng Nghymru
Ers 1 Ebrill 2020, dylai'r rhan fwyaf o eiddo rhent yng Nghymru fod â thystysgrif perfformiad ynni sy'n dangos gradd E neu uwch. Os nad dyma’r achos, mae'r eiddo'n debygol o fethu â bodloni'r gofynion sylfaenol ar gyfer Safonau Effeithlonrwydd Ynni a bennwyd gan Lywodraeth y DU.
Mae landlordiaid sy'n parhau i osod eiddo ar rent o dan E yn peryglu gweithredu'n anghyfreithlon a dylent ystyried sut i sicrhau gwelliannau o ran effeithlonrwydd ynni yn ddi-oed.
Er bod sail gyfreithiol i wella cartrefi sy'n perfformio'n isel, byddwch chi a'r tenant hefyd yn profi manteision lluosog drwy wneud hynny. Mae’r rhain yn cynnwys:
✔ Biliau ynni rhatach a chysur ychwanegol i'ch tenantiaid
✔ Cynnydd posibl yng ngwerth eich eiddo rhent
✔ Llai o effaith ar ein hamgylchedd
✔ Llai o leithder ac anwedd
✔ Gwell iechyd i'r tenant
Am fwy o wybodaeth am Effeithiolrydd Ynni, gwyliwch y fidio yma.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chwmni lleol Egni Energy Solutions sydd yn darparu cyngor proffesiynol a gonest i gefnogi landlordiaid a gwerthwyr i gydymffurfio â'u gofynion effeithlonrwydd ynni.
Mae'r gwasanaethau a gynigir yn cynnwys:
- Tystysgrifau Perfformiad Ynni Domestig a Masnachol
- Cyngor ac arweiniad ar sut i gyflawni graddfeydd EPC yn y ffordd fwyaf effeithlon bosibl (gan gynnwys gwybodaeth ar Grantiau perthnasol y Llywodraeth)
- Adroddiadau'r Llwydni a Thamprwydd i gadarnhau'r achos a chynnig camau adferol i ddileu problemau
- Arolygon Effeithlonrwydd Ynni Cartref i helpu i gynllunio gwelliannau i sicrhau gwerth am arian ac elw ar fuddsoddiad
- A llawer mwy!
Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Egni Energy Solutions yn uniongyrchol ar 01407 728101 neu e-bostiwch info@egnienergysolutions.co.uk